Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Amser:
09.15 -
13.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13091
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Mary van den Heuvel, National Education Union (NEU) Hannah O'Neill, National Education Union (NEU) Cymru Mark Campion, Estyn Catherine Evans, Estyn Yr Athro Ann John, Prifysgol Abertawe Menai Jones, NASUWT Llinos Jones, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Liz Miles, Estyn |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Hughes (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
2 Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 4
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan yr undebau athrawon.
3 Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 5
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.
3.2 Cytunodd Estyn i roi enghreifftiau o arfer da mewn ysgolion i'r Pwyllgor o ran y cymorth a roddir i wahanol grwpiau o ddysgwyr y mae absenoldeb cyffredinol a pharhaus wedi effeithio arnynt.
4 Absenoldeb disgyblion - sesiwn dystiolaeth 6
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Ann John.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 Absenoldeb disgyblion - trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiynau blaenorol.
8 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod yr adroddiad drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd y bydd yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.